britishcouncil12h ago
New
New
E+ Marketing and Communications Operations Officer
mid
OtherCommunications
1 views0 saves0 applied
Quick Summary
Overview
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.
Technical Tools
OtherCommunications
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.
Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.
Teitl y Rôl:
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer rhaglen Erasmus+ 48558
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.
Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.
Band Cyflog: Gradd 6
Cyflog: £25,520 gros y flwyddyn
Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad
Lleoliad: Caerdydd
Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.
Dyddiad Cau i geisiadau: 14 Awst am 22:59 (amser y DU)
Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.
Pwrpas y Rôl:
Cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau marchnata a chyfathrebu rhaglen Erasmus+ drwy gydlynu, gweinyddu a darparu cefnogaeth weithredol effeithiol ar gyfer ymgyrchoedd, digwyddiadau, gweithgarwch digidol ac adrodd yn ôl. Bydd deiliad y rôl yn cefnogi darpariaeth farchnata integredig ar draws cylch gwaith llawn y rhaglen, gan helpu i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cydlynu’n effeithiol, yn canolbwyntio ar y gynulleidfa, a chydymffurfio ag amcanion y rhaglen.
Bydd deiliad y rôl yn gweithio’n hyblyg gyda thîm marchnata Erasmus+, gan gefnogi blaenoriaethau cyffredin a chyfrannu’n effeithiol i’r gwaith o gyflawni ymgyrchoedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid a thracio perfformiad.
Prif Gyfrifoldebau:
* Cefnogi’r Rheolwyr Marchnata i roi cynlluniau marchnata ar gyfer Erasmus+ ar waith.
* Cefnogi’r gwaith o gydlynu a chyflawni ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau cyfathrebu ar draws amrywiaeth o sianeli.
* Cynorthwyo'r gwaith o weithredu cynlluniau, amserlenni, a rhestrau gwaith ymgyrchoedd
* Defnyddio arbenigedd marchnata proffesiynol i ddatblygu a gwella cynlluniau a dulliau marchnata Erasmus+.
* Defnyddio gwybodaeth dechnegol a phroffesiynol graidd i nodi a gwerthuso cyflwr presennol marchnata, awgrymu cyfleoedd i wella, a chefnogi datblygiad dulliau gweithredu newydd neu well i hybu twf busnes a lleihau dyblygu gwaith.
* Cynnig cyngor a chefnogaeth broffesiynol mewn modd rhagweithiol i gydweithwyr er mwyn sicrhau bod gofynion lleol, penodol yn cydymffurfio â pholisi, proses a llywodraethiant marchnata.
* Ymgymryd yn rhagweithiol â chylch blynyddol o Ddatblygu Proffesiynol Parhaus sydd wedi'i gydnabod yn ffurfiol er mwyn cynnal a dyfnhau eich arbenigedd proffesiynol.
* Cefnogi’r gwaith o gydlynu â rhanddeiliaid mewnol, partneriaid, a chyflenwyr.
* Ymateb i ymholiadau arferol a chefnogi cyfathrebu effeithiol ar draws gwahanol dimau.
* Gweithio mewn modd cydweithredol a hyblyg ar draws tîm marchnata Erasmus+, gan gyfrannu at amcanion cyffredin a chefnogi gweithgareddau marchnata ehangach yn ôl yr angen.
* Cefnogi gwaith gweinyddu a chydlynu gweithgareddau marchnata dydd i ddydd, a chadw systemau a dogfennau trefnus i sicrhau cyflwyno gwybodaeth yn effeithlon.
* Cefnogi prosesau tracio cyllidebau a chaffael gan ddefnyddio systemau a phrosesau y cytunwyd arnynt.
Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:
Hanfodol
* Profiad o gyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata a chyfathrebu mewn sefydliad mawr a chymhleth
* Profiad o baratoi a chyflawni cynlluniau i gefnogi rhaglenni / darpariaethau
* Llygaid craff am fanylion, sgiliau mesuro gwych, a’r gallu i ddadansoddi canlyniadau ar ôl ymgyrch
Dymunol
* Profiad mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang
* Profiad o gynllunio a chyflawni digwyddiadau (ar-lein ac wyneb yn wyneb)
* Profiad o amserlennu ac adrodd yn ôl
* Profiad o sefydlu a rheoli llifoedd gwaith
* Profiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol (taledig ac organig)
* Profiad o greu cynnwys (e.e. ysgrifennu copi)
* Profiad o sefydliadau proffesiynol allanol perthnasol e.e. CIM, Melcrum, GCN, CIPR, WOMMA ayb. (neu brofiad cyfatebol)
* Sgiliau Cymraeg
Gofynion Penodol
* Gradd mewn pwnc perthnasol e.e. marchnata, neu brofiad proffesiynol cyfatebol y gellir ei ddangos.
Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad.
Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.
Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Datganiad Diogelu
Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org
Location & Eligibility
Where is the job
—
Location terms not specified
Listing Details
- Posted
- July 31, 2026
- First seen
- July 31, 2026
- Last seen
- July 31, 2026
Posting Health
- Days active
- 0
- Repost count
- 0
- Trust Level
- 49%
- Scored at
- July 31, 2026
Signal breakdown
freshnesssource trustcontent trustemployer trust
External application · ~5 min on britishcouncil's site
Please let britishcouncil know you found this job on Jobera.
3 other jobs at britishcouncil
View all →Explore open roles at britishcouncil.
Similar Communications jobs
View all →Executive Director of Strategic Communications
3rd shift (11pm - 7am) Quality Control Associate (Sur La Table)
Full Time
E+ Marketing and Communications Operations Officer
Advocacy and Communications Officer (NO-3), FT, #00133192, San Jose – Costa Rica
Communications Senior Manager, Corporate & Product (Enterprise)
USD 151200-189000
Senior Director, Communications
125000
Full-Time
Browse Similar Jobs
Newsletter
Stay ahead of the market
Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.
A
B
C
D
No spam. Unsubscribe at any time.