britishcouncil
New

Rheolwr Marchnata ar gyfer Erasmus+ - Ymgyrchoedd a Sianeli

mid
Other
1 views0 saves0 applied

Quick Summary

Overview

Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.

Technical Tools
Other
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn cysylltu. Yn ysbrydoli. Teitl y Rôl: Rheolwr Marchnata ar gyfer Erasmus+ - Ymgyrchoedd a Sianeli 48539 Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+. Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU. Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU. Band Cyflog: Gradd 7 Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig) Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith. Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU) Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt. Pwrpas y Rôl: Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o gynllunio, cyflwyno, a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ymgyrchoedd marchnata taledig ac aml-sianel, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn effeithiol, a throsi diddordeb yn weithredu (conversion). Byddant yn gyfrifol am reoli sianeli, buddsoddi mewn cyfryngau a pherfformiad ymgyrchoedd a gweithgareddau i sicrhau’r effaith farchnata ac enillion ar fuddsoddiad gorau posibl. Byddant yn datblygu cynnwys penodol ar gyfer gwahanol sianeli a chefnogi gwaith hyrwyddo ac ehangu digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu. Byddant yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i benderfyniadau ar sail data perfformiad, gan gynnwys pennu cyllidebau, targedu, ac addasu’n greadigol. Byddant yn gyfrifol am berfformiad sianeli, cymhwyso dulliau profi (e.e. profion A/B), a pherfformiad ymgyrchoedd taledig. Prif Gyfrifoldebau: * Rheoli a gwerthuso cynlluniau ymgyrchoedd marchnata aml-sianel cyson y gellir eu hefelychu ar gyfer gweithgareddau rhaglenni a sectorau. * Sicrhau bod ymgyrchoedd yn gymesur â blaenoriaethau, maint, a chwmpas prosiectau; ac yn seiliedig ar ddata, yn gyson â’r strategaeth, ac yn gynaliadwy. * Cynllunio, cyflwyno, a chyflawni, a sicrhau’r canlyniadau gorau o ymgyrchoedd marchnata taledig ac aml-sianel. * Glynu wrth ganllawiau a pholisi ar gyfer defnyddio asiantaethau a thrydydd partïon mewn ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau cyfathrebu. * Gweithio gyda thimau mewnol ac asiantaethau allanol i gyflawni gweithgareddau ymgyrchoedd yn unol â'r amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt. * Darparu briffiau clir a rheoli ansawdd allbynnau, gan wirio bod canllawiau brand a marchnata moesegol yn cael eu dilyn. * Gweithio ar y cyd ar draws swyddogaeth farchnata Erasmus+, gan gyfrannu at amcanion cyffredin a chefnogi’r ddarpariaeth ar draws ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau marchnata â blaenoriaeth yn ôl y gofyn, i fodloni anghenion y rhaglen a gofynion sefydliadol. * Gweithio a meithrin cysylltiadau gyda thîm Awtomeiddio Marchnata’r British Council. * Hyrwyddo a hybu arferion gorau marchnata drwy’r Gymuned Ymarfer Marchnata fyd-eang a'r rhwydwaith rhyngwladol o weithwyr marchnata proffesiynol. * Nodi ac argymell cyfleoedd gwelliant parhaus mewn modd rhagweithiol drwy feithrin gwybodaeth am raglen a blaenoriaethau Erasmus+, defnyddio mewnwelediad a data perfformiad, a chadw llygaid rhagweithiol ar y datblygiadau diweddaraf yn eich maes marchnata. * Cyfrannu at ddadansoddi cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd i gryfhau’r gwaith o lywio'r strategaeth farchnata a'r portffolio byd-eang ehangach. Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl: Hanfodol * Profiad o gyflawni ymgyrchoedd marchnata taledig ar draws gwahanol sianeli digidol * Profiad o reoli perfformiad a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ymgyrchoedd * Profiad o ddefnyddio data a dadansoddeg i lywio penderfyniadau marchnata * Profiad o weithio gyda thimau mewnol ac asiantaethau allanol * Profiad o baratoi a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau * Profiad o ddefnyddio offerynnau dadansoddeg ac adrodd Dymunol * Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol * Profiad mewn sefydliad byd-eang neu ryngwladol * Profiad o reoli prosiect a/neu ddefnyddio offerynnau rheoli prosiect * Profiad o gomisiynu cynnwys * Profiad o gefnogi gwaith cyflawni digwyddiadau a chynnal gweminarau * Profiad o reoli llinell * Cymhwyster ôl-raddedig neu radd meistr mewn busnes neu farchnata Gofynion Penodol * Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy. Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau. Datganiad Diogelu Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council. Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org

Location & Eligibility

Where is the job
Location terms not specified

Listing Details

Posted
August 10, 2026
First seen
August 10, 2026
Last seen
August 11, 2026

Posting Health

Days active
0
Repost count
0
Trust Level
51%
Scored at
August 10, 2026

Signal breakdown

freshnesssource trustcontent trustemployer trust
Newsletter

Stay ahead of the market

Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.

A
B
C
D
Join 12,000+ marketers

No spam. Unsubscribe at any time.

britishcouncilRheolwr Marchnata ar gyfer Erasmus+ - Ymgyrchoedd a Sianeli