britishcouncil25d ago
New
New
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Brand, Creadigol a Chynnwys 49552
mid
OtherBrand
2 views0 saves0 applied
Quick Summary
Overview
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.
Technical Tools
OtherBrand
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.
Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.
Teitl y Rôl:
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Brand, Creadigol a Chynnwys 48552
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.
Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.
Band Cyflog: Gradd 7
Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)
Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad
Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin
Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.
Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)
Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.
Pwrpas y Rôl:
Bydd deiliad y rôl yma’n arwain y gwaith o ddatblygu brand, negeseuo, cynnwys a chreadigrwydd rhaglen Erasmus+, gan sicrhau cyfathrebu o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa ar draws gwahanol sianeli.
Byddwch yn gyfrifol am y strategaeth gynnwys ar draws gwahanol sianeli, cyfathrebu organig, a dulliau o adrodd a rhannu straeon sy'n ysgogi ymwybyddiaeth, ymgysylltiad, eiriolaeth, a chyfranogiad.
Prif Gyfrifoldebau:
* Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd creadigol ac asedau marchnata, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion rhaglen Erasmus+ ac yn ymgysylltu’n effeithiol â chynulleidfaoedd.
* Rheoli a datblygu hunaniaeth, arddull weladwy, a dull negeseuo’r brand i sicrhau cysondeb ar draws pob math o sianeli a dulliau cyfathrebu.
* Creu a chomisiynu cynnwys perthnasol o ansawdd uchel gan gynnwys astudiaethau achos, tystebau, cylchlythyron, cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, fideos, a deunyddiau ar gyfer ymgyrchoedd.
* Goruchwylio'r calendr cynnwys/golygyddol ar gyfer rhaglen Erasmus+, gan sicrhau llinell gyson o gynnwys perthnasol, effeithiol a thrawiadol.
* Arwain sianeli cyfryngau cymdeithasol Erasmus+, i sbarduno twf ein cynulleidfa, ymgysylltiad, eiriolaeth, ac ymwybyddiaeth o’r brand.
* Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion brand a chyfathrebu’r British Council, Llywodraeth y DU, a’r Comisiwn Ewropeaidd.
* Cynnig cyngor arbenigol a chefnogaeth i gydweithwyr ar frandio, fframweithiau negeseuo, datblygu cynnwys ac arferion gorau creadigol.
* Rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid mewnol, asiantaethau, cyflenwyr a phartneriaid i gyflawni gweithgareddau marchnata a chyfathrebu o ansawdd uchel.
* Monitro, mesuro, a gwerthuso perfformiad marchnata, gan ddefnyddio mewnwelediadau a data i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ymgyrchoedd, dangos yr effaith a gafwyd, a’r enillion ar fuddsoddiad (ROI).
* Nodi cyfleoedd i arloesi a sicrhau gwelliant parhaus drwy gadw llygaid ar dueddiadau’r diwydiant, mewnwelediaidau’r gynulleidfa, a fformatau cynnwys newydd.
Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:
Hanfodol
* Profiad o reoli gwefannau, platfformau digidol, systemau rheoli cynnwys (CMS) ac adnoddau ac offerynnau digidol.
* Profiad o sicrhau’r teithiau defnyddwyr a llwybrau trosi diddordeb yn weithredu (conversion) gorau posibl.
* Profiad o ddefnyddio mewnwelediadau dadansoddeg i nodi cyfleoedd a llywio gwelliannau digidol.
* Profiad o weithio ar y cyd â thimoedd creu cynnwys ac ymgyrchoedd.
* Profiad o gynllunio a chyflawni strategaethau a chynllunio marchnata i gefnogi rhaglenni a darpariaethau.
* Profiad o ddefnyddio offerynau dadansoddeg ac adrodd i fonitro perfformiad a chyflwyno mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt.
Dymunol
* Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol.
* Profiad o weithio mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang.
* Profiad o gomisiynu a rheoli’r gwaith o ddatblygu cynnwys.
* Profiad o gynllunio ymgyrchoedd marchnata digidol aml-sianel a’u rhoi ar waith, gan gynnwys gweithgareddau cyfryngol taledig.
* Profiad o ddadansoddi data, adrodd, a datblygu byrddau gwaith (dashboards).
* Profiad o gefnogi’r gwaith o gyflawni digwyddiadau a chynnal gweminarau.
Gofynion Penodol
* Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos
Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad
Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.
Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Datganiad Diogelu
Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org
Location & Eligibility
Where is the job
—
Location terms not specified
Listing Details
- Posted
- August 10, 2026
- First seen
- August 10, 2026
- Last seen
- August 11, 2026
Posting Health
- Days active
- 0
- Repost count
- 0
- Trust Level
- 51%
- Scored at
- August 10, 2026
Signal breakdown
freshnesssource trustcontent trustemployer trust
External application · ~5 min on britishcouncil's site
Please let britishcouncil know you found this job on Jobera.
4 other jobs at britishcouncil
View all →Explore open roles at britishcouncil.
Similar Brand jobs
View all →T
ThrivecausemeticsBrand Experience & CX Associate
USD 28–32
Full-Time
O
OLIVER Agency - APACBrand Lead
Principal PMM, Brand Narrative & Keynote
$190K – $220K • Offers Equity
full-timeRemote
Brand Merchandise Specialist
FT
Brand Lead, Skeletal Conditions Germany
Brand Lead
Remote
Browse Similar Jobs
Newsletter
Stay ahead of the market
Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.
A
B
C
D
No spam. Unsubscribe at any time.