britishcouncil7h ago
New
New
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Profiad Digidol a Mewnwelediadau Perfformiad 49545
mid
Other
1 views0 saves0 applied
Quick Summary
Overview
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.
Technical Tools
Other
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.
Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.
Teitl y Rôl:
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Profiad Digidol a Mewnwelediadau Perfformiad 49545
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.
Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.
Band Cyflog: Gradd 7
Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)
Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad
Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin
Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.
Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)
Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.
Pwrpas y Rôl:
Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o sicrhau’r profiadau digidol a theithiau defnyddwyr gorau posibl, yn ogystal â sicrhau llwybrau effeithiol i droi diddordeb yn weithredu (conversion) ar draws platfformau digidol Erasmus+.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am gyflawni gwaith dadansoddeg ddigidol, adrodd ar berfformiad, a chanfod mewnwelediadau o ddata, gan sicrhau bod data yn llywio penderfyniadau a gwelliant parhaus ar draws ein gweithgareddau marchnata.
Prif Gyfrifoldebau:
* Arwain profiad digidol a thaith gyfan y defnyddiwr o'r dechrau i'r diwedd ar draws platfformau digidol Erasmus+, gan sicrhau llwybr di-drafferth - o ymwybyddiaeth i ymgeisio.
* Rheoli a chael y gorau o wefannau, tudalennau glanio, HubSpot, a sianeli digidol eraill i wella ymgysylltiad a chyfraddau troi diddordeb yn weithredu.
* Datblygu, cyhoeddi, a chynnal cynnwys digidol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag amcanion y rhaglen, anghenion y gynulleidfa, a chanllawiau brand.
* Monitro, dadansoddi, ac adrodd ar berfformiad digidol gan ddefnyddio dadansoddeg, codau olrhain UTM, a mewnwelediadau defnyddwyr i ysgogi gwelliant parhaus.
* Nodi a gwaredu rhwystrau sy’n codi fel rhan o deithiau ein defnyddwyr, a rhoi gwelliannau ar waith i wella profiad y defnyddiwr.
* Sicrhau ein bod yn cynnal swyddogaethau, hygyrchedd, cydymffurfiaeth, a safonnau perfformiad y wefan, gan gynnwys datrys problemau technegol a dolenni toredig.
* Cydweithio â thimau Digidol, Technoleg, Dylunio, Ymgyrchoedd, a Chynnwys i ddatrys problemau digidol yn effeithiol a gwella’r wefan.
* Rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid mewnol, asiantaethau, a chyflenwyr, gan ddarparu briffiau clir a sicrhau cyflawni gweithgareddau marchnata o ansawdd uchel.
* Cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni, mesuro perfformiad, a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu, yn ogystal ag adrodd ar enillion ar fuddsoddiad (ROI).
* Hybu arferion gorau ar gyfer marchnata digidol drwy fanteisio a gweithredu ar fewnwelediadau cynulleidfa, data perfformiad, a meincnodau perthnasol y diwydiant i ysgogi arloesedd a gwelliant parhaus
Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:
Hanfodol
* Profiad o reoli gwefannau, platfformau digidol, systemau rheoli cynnwys (CMS) ac adnoddau ac offerynnau digidol cysylltiedig.
* Profiad o sicrhau’r teithiau gorau posibl i ddefnyddwyr digidol i wella ymgysylltiad, hygyrchedd a chyfraddau troi diddordeb yn weithredu.
* Profiad o ddefnyddio dadansoddeg ddigidol a mewnwelediadau defnyddwyr i nodi cyfleoedd ac ysgogi gwelliannau parhaus.
* Profiad o gefnogi gwaith cynllunio, cyflawni, a gwerthuso ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata digidol.
* Profiad o gyfrannu at ddylunio, gweithredu, a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata sy’n cefnogi rhaglenni, darpariaethau neu wasanaethau.
* Profiad o ddefnyddio offerynnau dadansoddeg ac adrodd i fonitro perfformiad, gwerthuso effeithlonrwydd a chanfod mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt.
Dymunol
* Profiad o weithio yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol
* Profiad o weithio mewn sefydliad byd-eang neu ryngwladol.
* Experience conceiving, delivering and optimising multi-channel digital marketing campaigns, including paid digital activity.
* Profiad o lunio, cyflawni a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ymgyrchoedd marchnata digidol aml-sianel, gan gynnwys gweithgareddau digidol taledig.
* Profiad o ddadansoddi data, adrodd ar berfformiad, a datblygu byrddau gwaith (dashboards).
* Profiad o werthuso ymgyrchoedd marchnata a defnyddio mewnwelediadau i lywio gweithgareddau yn y dyfodol.
Gofynion Penodol
* Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos
Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad
Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.
Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Datganiad Diogelu
Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org
Location & Eligibility
Where is the job
—
Location terms not specified
Listing Details
- Posted
- August 10, 2026
- First seen
- August 10, 2026
- Last seen
- August 10, 2026
Posting Health
- Days active
- 0
- Repost count
- 0
- Trust Level
- 49%
- Scored at
- August 10, 2026
Signal breakdown
freshnesssource trustcontent trustemployer trust
External application · ~5 min on britishcouncil's site
Please let britishcouncil know you found this job on Jobera.
3 other jobs at britishcouncil
View all →Explore open roles at britishcouncil.
Newsletter
Stay ahead of the market
Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.
A
B
C
D
No spam. Unsubscribe at any time.