Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Ymgysylltu â Chynulleidfaoedd a Chyfathrebu

mid
Other
1 views0 saves0 applied

Quick Summary

Overview

Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.

Technical Tools
Other
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn cysylltu. Yn ysbrydoli. Teitl y Rôl: Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Ymgysylltu â Chynulleidfaoedd a Chyfathrebu Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+. Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU. Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU. Band Cyflog: Gradd 7 Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig) Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith. Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU) Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt. Pwrpas y Rôl: Bydd deiliad y rôl yn llywio ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd targed, gan gynnwys y cyfryngau, ac yn arwain ar ffyrdd o ymgysylltu â nhw. Byddant yn sicrhau bod ein gweithgareddau marchnata wedi'u seilio ar anghenion cynulleidfaoedd, eu hymddygiaid, a chyfleoedd perthnasol. Byddant yn gweithio'n agos gydag arweinwyr sectorau busnes a rhanddeiliaid allweddol i drosi blaenoriaethau busnes yn ddulliau marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa, gan sicrhau bod gweithgarwch marchnata yn cydfynd ag amcanion y rhaglen a theithiau’r cyfranogwyr. Byddant yn meithrin a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid a sefydliadau amlhau, gan gyfrannu cynnwys a gwybodaeth sy’n cael ei arwain gan anghenion y gynulleidfa, a chefnogi’r gwaith o gyflawni digwyddiadau a hybu gweithgareddau ymgysylltu drwy gydol cylchred y rhaglen. Prif Gyfrifoldebau: * Datblygu pecynnau cymorth o adnoddau cynnwys ac asedau ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid, a sicrhau cysondeb negeseuo a rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cyfathrebu partneriaid. * Rheoli dosbarthiad pecynnau cymorth ac asedau; casglu adborth a gwybodaeth i lywio’r gwaith o gynhyrchu pecynnau cymorth yn y dyfodol. * Gweithio'n agos gydag arweinwyr sectorau busnes a rhanddeiliaid i ddeall blaenoriaethau, cyfleoedd, a heriau’r sector a'r gynulleidfa, gan drosi'r rhain yn gynlluniau marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa. * Cefnogi'r uwch reolwr i ddrafftio datganiadau i'r wasg, nodi straeon posibl ar gyfer y cyfryngau, ymateb i ymholiadau, a gweithio i gefnogi cysylltiadau cyhoeddus rhagweithiol. * Datblygu cynnwys (gan gynnwys ysgrifennu copi) ar gyfer amrywiaeth o sianeli a fformatau gan gynnwys: datganiadau i'r wasg; nodiadau briffio; blogiau; canllawiau; canllawiau 'sut i'; gwybodaeth i helpu chwalu mythau; a chyfweliadau. * Glynu wrth ganllawiau a pholisi ar ddefnyddio asiantaethau a thrydydd partïon mewn ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau cyfathrebu. * Darparu briffiau clir a rheoli ansawdd allbynnau a chynhyrchion. * Rheoli cysylltiadau dydd i ddydd gyda’r asiantaeth fonitro cyfryngau. * Gweithio ar y cyd ar draws swyddogaeth farchnata Erasmus+, gan gyfrannu at amcanion cyffredin a chefnogi’r ddarpariaeth ar draws ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau marchnata blaenoriaeth yn ôl y gofyn i fodloni anghenion y rhaglen a gofynion sefydliadol. * Cydweithio a meithrin cysylltiadau â thîm Cyfathrebu Corfforaethol y British Council. * Hyrwyddo a hybu arferion gorau marchnata drwy’r Gymuned Ymarfer Marchnata fyd-eang a'r rhwydwaith rhyngwladol o weithwyr marchnata proffesiynol. * Nodi ac argymell cyfleoedd gwelliant parhaus mewn modd rhagweithiol drwy feithrin gwybodaeth am raglen a blaenoriaethau Erasmus+, defnyddio mewnwelediad a data perfformiad, a sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn eich maes marchnata perthnasol. * Cyfrannu at y gwaith o ddadansoddi cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd i gryfhau’r gwaith o lywio'r strategaeth farchnata a'r portffolio byd-eang ehangach. Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl: Hanfodol * Profiad o gymhwyso dealltwriaeth o gynulleidfaoedd i weithgareddau marchnata neu gyfathrebu * Profiad o gysylltiadau cyhoeddus * Profiad o ddarparu gweithgareddau marchnata, cyfathrebu, neu ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa * Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid * Profiad o baratoi a chyflawni cynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau * Profiad o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws amrywiaeth o wahanol sianeli Dymunol * Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol * Profiad mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang * Profiad o gomisiynu cynnwys * Profiad o gynllunio a chyflawni digwyddiadau neu weithgareddau estyn allan (ar-lein ac all-lein) * Profiad o greu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata digidol aml-sianel a’u rhoi ar waith – gan gynnwys gweithgareddau taledig * Profiad o werthuso ymgyrchoedd yn effeithiol * Profiad o fonitro cyfryngau * Profiad o gyfryngau cymdeithasol organig * Profiad o weithio gydag asiantaethau creadigol neu ddylunwyr * Cymhwyster ôl-raddedig neu radd meistr mewn busnes neu farchnata Gofynion Penodol * Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy. Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau. Datganiad Diogelu Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council. Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org

Location & Eligibility

Where is the job
Location terms not specified

Listing Details

Posted
August 10, 2026
First seen
August 10, 2026
Last seen
August 10, 2026

Posting Health

Days active
0
Repost count
0
Trust Level
49%
Scored at
August 10, 2026

Signal breakdown

freshnesssource trustcontent trustemployer trust
Newsletter

Stay ahead of the market

Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.

A
B
C
D
Join 12,000+ marketers

No spam. Unsubscribe at any time.

britishcouncilRheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Ymgysylltu â Chynulleidfaoedd a Chyfathrebu