britishcouncil
New

E+ Marketing Manager, Operations and Events

mid
MarketingMarketing Manager
1 views0 saves0 applied

Quick Summary

Overview

Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.

Technical Tools
MarketingMarketing Manager
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn cysylltu. Yn ysbrydoli. Teitl y Rôl: Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Gweithrediadau a Digwyddiadau 48548 Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+. Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU. Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU. Band Cyflog: Gradd 7 Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig) Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith. Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU) Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt. Pwrpas y Rôl: Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni digwyddiadau, cynllunio gweithredol, a chydlynu marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+, gan sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cyflawni'n effeithlon, yn gyson, ac yn unol â'r safonau y cytunwyd arnynt. Byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli digwyddiadau, cydlynu cyflenwyr, tracio cyllidebau, ac adrodd ar weithrediadau i gefnogi cyflawni’r rhaglen yn effeithiol. Prif Gyfrifoldebau: * Arwain y gwaith o gynllunio, hyrwyddo a chyflawni digwyddiadau, gweminarau, a gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau’r cyfranogiad a'r effaith orau bosibl. * Cydweithio gydag arweinwyr busnes a thimau sector i sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau marchnata’n cyd-fynd ag amcanion, blaenoriaethau, ac amserlenni’r rhaglen. * Datblygu cynnwys ac asedau hyrwyddo trawiadol i gefnogi gweithgareddau marchnata a chyflawni digwyddiadau yn ogystal â gweithgareddau dilynol ar ôl y digwyddiad. * Rheoli cysylltiadau â chyflenwyr allanol, partneriaid, a siaradwyr i sicrhau ein bod yn cyflwyno digwyddiadau o ansawdd uchel. * Hybu profiad y mynychwr drwy gasglu adborth, gwerthuso canlyniadau, a gwneud gwelliannau. * Monitro, tracio, ac adrodd ar gyfranogiad, ymgysylltiad, metrigau estyn allan, a pherfformiad cyffredinol digwyddiadau. * Cynnal a rheoli llinellau gwaith digwyddiadau, adnoddau tracio, byrddau gwaith (dashboards), cyllidebau, llifoedd gwaith, a systemau adrodd i sicrhau cydlyniad a chyflawniad effeithiol. * Cydlynu mewnbynnau traws-adrannol gan dimau marchnata, digidol, ymgysylltu â rhanddeiliad, a busnes, i sicrhau cyflawni ymgyrchoedd a gweithgareddau integredig. * Sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau brand, gofynion llywodraethu data, polisïau marchnata, a phrosesau rheoli cyllidebau. * Dadansoddi data perfformiad, gwerthuso effeithiolrwydd marchnata, meincnodi canlyniadau, a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus ac arloesedd. Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i'r Rôl: Hanfodol * Profiad o ddatblygu a chyflawni digwyddiadau (ar-lein ac wyneb yn wyneb) * Profiad o weithio gyda nifer o wahanol randdeiliaid a chyflenwyr i gydlynu cyflawniad gwaith neu brosiect * Profiad o lunio a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau. Dymunol * Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol * Profiad mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang * Profiad o weithrediadau marchnata, cynllunio ymgyrchoedd, neu dracio perfformiad * Profiad o gomisiynu cynnwys * Profiad o ddefnyddio platfform digwyddiadau Cvent Gofynion Penodol * Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy. Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau. Datganiad Diogelu Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council. Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org

Location & Eligibility

Where is the job
Location terms not specified

Listing Details

Posted
August 10, 2026
First seen
August 10, 2026
Last seen
August 11, 2026

Posting Health

Days active
0
Repost count
0
Trust Level
51%
Scored at
August 10, 2026

Signal breakdown

freshnesssource trustcontent trustemployer trust
Newsletter

Stay ahead of the market

Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.

A
B
C
D
Join 12,000+ marketers

No spam. Unsubscribe at any time.

britishcouncilE+ Marketing Manager, Operations and Events